Ar hyn o bryd, mae yna ddwy ffordd i chi gynyddu eich pensiwn o’r Cynllun:

Peidiwch ag anghofio eich bod yn cael rhyddhad treth ar gyfraniadau ychwanegol a bod hyn yn lleihau eu gwir cost i chi. Mae yna ragor o wybodaeth yma.  

Mae yna gyfyngiad ar y cyfraniadau ychwanegol y gallwch eu talu. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni. 

Prynu pensiwn ychwanegol 

Gallwch brynu mwy o bensiwn, hyd at uchafswm o £7,579  (cyfraddau 2023/24). 

Bydd y pensiwn ychwanegol yr ydych yn ei brynu yn cael ei dalu yn yr un ffordd â’ch pensiwn ymddeol. 

Beth yw’r gost? 

Bydd y gost i chi yn dibynnu ar nifer o ffactorau. 

Ceir ambell i enghraifft gyffredinol isod. 

Gallwch hefyd ddefnyddio’r teclyn cyfrifo ar-lein a ddatblygwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) i gael amcan o gost prynu pensiwn ychwanegol.  Mae’r teclyn cyfrifo ar gael yma. 

Efallai y bydd yr awdurdod gweinyddu ar gyfer eich cronfa bensiwn yn gofyn i chi gyflwyno adroddiad meddygol boddhaol cyn derbyn eich cais, a chi fyddai’n talu am yr adroddiad hwnnw. Pan fo hynny’n wir, cewch wybod beth yw’r broses i’w dilyn ar ôl i chi gyflwyno’ch cais i dalu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol. 

Enghraifft 1 

Mae Kyle yn 25 ac eisiau prynu pensiwn blynyddol ychwanegol o £1,000. 

Mae eisiau talu’r cyfraniadau ychwanegol y byddai’n rhaid eu talu dros gyfnod o 20 mlynedd. 

Y gost o brynu £1,000 o bensiwn blynyddol ychwanegol yw £40.50 y mis am yr 20 mlynedd nesaf (cyfanswm o £9,720.00). 

Enghraifft 2 

Mae Marion yn 47 oed ac eisiau prynu £750 o bensiwn blynyddol ychwanegol. 

Mae eisiau talu amdano dros gyfnod o 10 mlynedd. 

Byddai’r gost o brynu £750 o bensiwn blynyddol ychwanegol yn £90.75 y mis am y 10 mlynedd nesaf (cyfanswm o £10,890.00). 

Talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol 

Gallwch dalu mwy o gyfraniadau i’n cynlluniau Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (y cyfeirir atynt weithiau fel cynlluniau Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol “mewnol”). 

Chi’n sy’n dewis faint o Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol i’w talu a sut y byddant yn cael eu buddsoddi. Mae’r arian yn dod yn syth o’ch cyflog, ac yn mynd at y darparwr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol a fydd yn ei fuddsoddi ar eich rhan. 

Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn ymddeol? 

Gallwch ddefnyddio’ch Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol i gymryd cyfandaliad o’r gronfa wrth i chi ymddeol, neu gallwch brynu blwydd-dal. 

Os oes diddordeb gennych mewn talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol, yna cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am ein darparwyr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol. Neu, gallwch fynd i wefan/wefannau arbennig llywodraeth leol sy’n trafod Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol, trwy fynd i’n hadran ‘Dolenni defnyddiol’. 

Nodwch  

O dan reoliadau blaenorol, roedd yna ffyrdd gwahanol o brynu aelodaeth neu bensiwn ychwanegol. Efallai bod gennych un o’r trefniadau hyn yn eu lle a bydd y trefniant hwn yn cael ei anrhydeddu. Mae’r opsiynau blaenorol hyn wedi cau erbyn hyn ac ni allwn dderbyn unrhyw geisiadau newydd. 

Methu â dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni