Y Gronfa Bensiwn
Rhagor o wybodaeth am y ffordd y caiff y gronfa ei llywodraethu.
Rhagor o wybodaeth am y ffordd y caiff y gronfa ei llywodraethu.
Mae’r aelodau’n cynnwys pobl sy’n gweithio i Gynghorau Bwrdeistref Sirol Torfaen, Blaenau Gwent, a Chaerffili, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Dinas Casnewydd, ac amrywiaeth eang o fudiadau eraill, er enghraifft y coleg lleol, cynghorau tref a chymuned sydd wedi cyflwyno cais i fod yn rhan o’r gronfa, a mudiadau eraill sy’n darparu gwasanaethau cymunedol neu’n darparu gwasanaethau ar ran yr awdurdod lleol. Mae dros 50 o gyflogwyr yn caniatáu i’w cyflogeion ymuno â’r gronfa.
Mae’r CPLlL yn gynllun statudol. Mae hyn yn golygu ei fod yn ddiogel iawn oherwydd mae’r swm sy’n cael ei dalu i aelodau adeg eu hymddeoliad wedi ei ddiffinio a’i osod yn gyfreithiol.
Mae gan athrawon a staff gweithredol yn yr heddlu a’r gwasanaeth tân ac achub eu cynlluniau pensiwn eu hunain ac nid ydynt yn rhan o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen).
Sefydlwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn 2017. Ar PPC mae’r wyth cronfa CPLlL lleol (Awdurdodau Cyfansoddol) sy’n rhychwantu Cymru gyfan yn cydweithio, ac mae’n un o wyth Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol genedlaethol.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy’n rhedeg Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen).
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, felly, yw’r "awdurdod gweinyddu yn ôl y diffiniad yn Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Mae’r Cyngor wedi dirprwyo’r cyfrifoldeb o reoli’r Gronfa Bensiwn i Bwyllgor Pensiynau, a’r Pwyllgor Pensiynau sy’n gwneud penderfyniadau ac yn cymryd cyfrifoldeb dros reoli’r Gronfa a buddsoddiadau’r Gronfa.
Yn ogystal, mae’r Cyngor wedi sefydlu Bwrdd Pensiynau yn unol â gofynion Deddf Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus. Rôl y Bwrdd Pensiynau yw cynorthwyo gyda llywodraethu da’r cynllun trwy fonitro perfformiad y Gronfa a chadw at ddyletswyddau statudol. Nid corff sy’n gwneud penderfyniadau yw’r Bwrdd Pensiynau – ei rôl yw cynorthwyo’r Awdurdod Gweinyddu i gydymffurfio â rheolau’r cynllun.
Mae gofyn i awdurdodau gweinyddu weithredu er budd pob cyflogwr ac aelod sy’n aelod o’r cynllun, yn ogystal â’r rheiny sy’n ddibynnol ar yr aelodau. Mae rôl yr awdurdod gweinyddu yn debyg iawn i rôl ymddiriedolwr.
Y Tîm Pensiynau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy’n gofalu am y gwaith o redeg y cynllun o ddydd i ddydd.
Rheolwr Pensiynau: Joanne Griffiths
Y Pwyllgor Pensiynau sy’n goruchwylio rheolaeth Cronfa Bensiwn Torfaen a’r Pwyllgor yw ymddiriedolwyr y Gronfa.
Rhagor o wybodaeth
Mae’n ofynnol, yn ôl trefniadau llywodraethu cynlluniau pensiwn yn y sector cyhoeddus, i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, fel awdurdod gweinyddu ar gyfer y CPLlL (Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol), sicrhau bod bwrdd pensiynau lleol yn ei le.
Rhagor o wybodaeth
Gwybodaeth gan y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ar-lein.
Yr Adran Gwaith a Phensiynau
Mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn sicrhau y telir y dreth gywir ar yr adeg iawn.
Mae HelpwrArian yn dod â chanllawiau yn ymwneud ag arian a phensiynau at ei gilydd fel ei bod yn haws ac yn gyflymach dod o hyd i’r cymorth iawn. Mae’n dod â chymorth a gwasanaethau tri darparwr canllawiau ariannol a gefnogir gan y llywodraeth, at ei gilydd mewn un man: Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.
Mae adnoddau rhad ac am ddim fel HelpwrArian neu wefan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn wych. Gallant eich helpu i feithrin eich gwybodaeth am bensiynau a’ch tywys trwy’r materion pwysig yr ydych yn eu hwynebu wrth i chi ymddeol. Yn hytrach na rhoi arweiniad cyffredinol i chi, bydd Cynghorydd Ariannol Annibynnol yn edrych ar eich amgylchiadau unigol, eich sefyllfa ariannol a’ch nod wedi ymddeol, ac yn cynnig argymhelliad sy’n benodol i’ch sefyllfa bersonol chi. Ni fydd pob un eisiau talu am wasanaeth Cynghorydd Ariannol Annibynnol, ond os ydych yn dymuno talu, yna mae’n hanfodol eich bod yn defnyddio un sydd wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Os oes arnoch angen cyngor am drosglwyddo eich cynilion pensiwn, dylech siarad â Chynghorydd Ariannol Annibynnol sydd â chymhwyster yn y maes hwn.
Gallwch ddod o hyd i Gynghorydd Ariannol Annibynnol lleol sydd wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, trwy ddefnyddio teclyn o’r enw ‘Darganfod ymgynghorydd ymddeoliad’ sydd ar gael gan HelpwrArian.
Am wybodaeth am bensiynau’r wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn. Gallwch ddarganfod ar ba oed y gallwch hawlio pensiwn y wladwriaeth.
Os oeddech yn aelod o gynllun arall yn y gorffennol, ac rydych wedi colli cysylltiad â nhw, yna dylai’r corff canolog hwn fod yn gallu eich helpu i ddod o hyd iddynt.
Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau yn wylgi pensiynau sy’n sicrhau bod cynlluniau yn cael eu rhedeg yn iawn. Mae hefyd yn amddiffyn aelodau rhag twyll. Gall unrhyw un sy’n pryderu am gynllun ‘chwythu’r chwiban’ wrth y Rheoleiddiwr Pensiynau.
Sefydlwyd yr Ombwdsmon Pensiynau o dan y Ddeddf Pensiynau, ac mae’n gallu ymchwilio i unrhyw gŵyn neu anghydfod neu ffaith gyfreithiol sy’n ymwneud â’ch cynllun pensiwn, a’u pennu.
Y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Mae’r wefan hon ar gyfer cyflogeion yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y CPLlL newydd sy’n berthnasol er 1 Ebrill 2014.
Adroddiad Blynyddol Y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf ar gyfer Y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yng Nghymru a Lloegr.
Chwiliwch am gynghorydd ariannol annibynnol. Sicrhewch eu bod yn deall y CPLlL.
Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol
Gwybodaeth am wasanaethau ariannol y Deyrnas Unedig. Cynnyrch ariannol a chyngor am arbed arian.
Gwefan ariannol hunan-gymorth flaenllaw’r Deyrnas Unedig.
Ewch i’r wefan hon am gyngor am leihau eich costau.
Pwyllgor Pensiynau Llywodraeth Leol
Cymorth i awdurdodau lleol yn eu rôl adnoddau dynol. Maent yn helpu trwy ddarparu cyngor a gwybodaeth arbenigol ar reoli a datblygu pobl mewn llywodraeth leol ac arwain y broses o ffurfio polisïau am rai o’r materion sy’n gysylltiedig â chyflogwyr.
Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau
Mae’r adran hon yn gyfrifol am feysydd polisi yr Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol a’r Rhanbarthau gynt a’r Swyddfa Cabinet.
Mae Age Concern yn cefnogi pob un dros 50 yn y Deyrnas Unedig, gan sicrhau eu bod yn cael y gorau o fywyd. Maent yn darparu gwasanaethau hanfodol, er enghraifft gofal dydd a gwybodaeth. Maent hefyd yn ymgyrchu dros faterion fel gwahaniaethu ar sail oed a phensiynau, ac yn gweithio i ddylanwadu ar farn y cyhoedd a pholisi’r llywodraeth mewn perthynas â phobl hŷn.
Mae’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn helpu pobl i ddatrys eu problemau cyfreithiol ac ariannol a phroblemau eraill, trwy ddarparu gwybodaeth a chyngor rhad ac am ddim o dros 3,000 o leoliadau, a thrwy ddylanwadu ar y rheiny sy’n llunio polisïau. Gallwch ddod o hyd i fanylion swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol trwy fynd i wefan Cyngor ar Bopeth.
Cyngor defnyddiol er mwyn adnabod sgamiau yn ymwneud â phensiynau, a’u hosgoi.