Os digwydd i chi farw cyn i chi gymryd eich buddion gohiriedig, efallai y bydd hawl gan eich perthynas agosaf i’r cyfandaliad grant marwolaeth.
Os oeddech wedi gadael cyn 1 Ebrill 2008, telir cyfandaliad sydd 3 gwaith eich pensiwn gohiriedig.
Os oeddech wedi gadael ar 1 Ebrill 2008, neu ar ôl y dyddiad yma, telir cyfandaliad sydd 5 gwaith eich pensiwn gohiriedig.
Gallwch ddweud wrthym i bwy yr hoffech i ni dalu’r cyfandaliad grant marwolaeth trwy ddefnyddio’r ffurflen Mynegi Dymuniad yn yr adran ‘Adnoddau’.
Ni sy’n penderfynu’n derfynol pwy i dalu’r cyfandaliad iddynt. Cyn i ni ddod i unrhyw benderfyniad, byddwn yn ystyried unrhyw ddymuniadau yr ydych wedi eu mynegi, ond ni fyddwn yn rhwym wrthynt.
Pensiwn i oroeswyr
Os digwydd i chi farw cyn cymryd eich buddion gohiriedig, byddwn yn talu pensiwn i’ch gŵr/gwraig neu’ch partner sifil neu eich partner sy’n cydfyw â chi a’ch plant dibynnol.
Os hoffech i ni dalu buddion i bartner sy’n cydfyw â chi, bydd gofyn iddynt fodloni meini prawf penodol.
Mae pensiynau plant yn daladwy i unrhyw blant dibynnol cymwys sydd gennych adeg eich marwolaeth.
Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth.
Cyfrifo swm y pensiwn i oroeswyr
Ar gyfer eich gŵr neu wraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi:
1/160 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth a gronnwyd erbyn i chi adael.
Nodwch
Dim ond eich aelodaeth er 6 Ebrill 1988 a ddefnyddir ar gyfer partneriaid sy’n cydfyw, ond gallwch ddewis talu cyfraniadau ychwanegol ar gyfer buddion i oroeswyr er mwyn ymestyn y ddarpariaeth hon i gynnwys cyfnodau cynharach o’ch aelodaeth yn y Cynllun.