Cwestiynau cyffredinol
Atebion i rai o’r cwestiynau cyffredin
Atebion i rai o’r cwestiynau cyffredin
Hyd yn oed os ydych wedi bod yn cynilo ar gyfer eich ymddeoliad am fwyafrif eich bywyd gwaith, efallai na fydd eich pensiwn yn ddigon i chi gael byw’n gyffyrddus wedi i chi ymddeol neu i ddarparu’n ddigonol ar gyfer eich dibynyddion.
Gwelir y Cynllun fel un sy’n darparu buddion rhesymol i lawer o’i aelodau wedi iddynt ymddeol, ond mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau ac efallai na fydd hyn yn wir i chi.
Efallai na fydd eich pensiwn yn ddigon i chi gael byw’n gyffyrddus os ydych:
wedi cael saib yn eich gyrfa
wedi ymuno â’r cynllun yn hwyrach yn eich bywyd
wedi optio allan yn flaenorol
eisiau ymddeol yn gynnar
eisiau darparu mwy ar gyfer eich dibynyddion neu
wedi newid eich swydd sawl gwaith
Un opsiwn yw talu cyfraniadau ychwanegol er mwyn rhoi hwb i’ch pensiwn. Beth bynnag y gwnewch chi, dylech sicrhau eich bod yn cael cyngor ariannol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
Mae PLSA (Pensions and Lifetime Savings Association) wedi cyhoeddi cyfres o safonau o’r enw ‘Retirement Living Standards’ i’n helpu i gael darlun o’r math o fywyd y gallem ei gael wedi i ni ymddeol a faint y gallai’r bywyd hwnnw gostio. Ewch i www.retirementlivingstandards.org.uk am ragor o wybodaeth.
Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at ymddeoliad hapus a chyffyrddus.
Er mwyn cael ychydig bach mwy yn ystod eich ymddeoliad, efallai y byddwch yn dymuno ystyried talu cyfraniadau ychwanegol. Gall hyn fod yn ffordd dreth-effeithiol o ychwanegu at eich incwm wedi i chi ymddeol.
Mae yna sawl ffordd i chi ychwanegu at yr incwm a gewch yn ystod eich ymddeoliad, yn ychwanegol at y buddion yr ydych yn edrych ymlaen atynt yn barod fel aelod o’r Cynllun:
Prynu pensiwn ychwanegol o’r gronfa
Talu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol mewnol
Dyfarniadau pensiwn ychwanegol gan y cyflogwr
Cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol sy’n sefyll ar eu pen eu hun
Cynllun pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid personol
Ewch i’r dudalen 'Talu mwy o gyfraniadau' yn Cymorth am ragor o wybodaeth. Mae croeso i chi gysylltu â ni hefyd am ragor o wybodaeth.
Newidiodd pensiwn y wladwriaeth ar 6 Ebrill 2016 i bobl sy’n cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae hyn yn golygu dynion a aned ar 6 Ebrill 1951 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, a menywod a aned ar 6 Ebrill 1953 neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Roedd yr hen reolau (a oedd yn cynnwys Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth) yn gymhleth, ac roedd yn anodd gwybod faint y byddech yn ei gael hyd nes eich bod yn agos at Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ond ni fydd pob un yn cael Pensiwn newydd llawn y Wladwriaeth, oherwydd bydd yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Mae Pensiwn newydd llawn y Wladwriaeth ar gyfer 2023/24 yn £203.85 yr wythnos.
Mae pensiwn sylfaenol y wladwriaeth ar gyfer 2023/24 wedi codi o £141.85 i £156.20 yr wythnos (£14.35), a chyfradd lawn pensiwn newydd y wladwriaeth wedi codi o £185.15 i £203.85 yr wythnos (£18.70).
Bydd pob blwyddyn gymwys ar eich cofnod Yswiriant Gwladol ar ôl 5 Ebrill 2016 yn ychwanegu tua £5.13 yr wythnos at eich Pensiwn newydd y Wladwriaeth. Cyfrifir yr union swm y byddwch yn ei gael trwy rannu £203.85 gyda 35 ac yna lluosi’r ateb gyda nifer y blynyddoedd cymwys ar ôl 5 Ebrill 2016.
Os oes gennych gwestiynau am bensiynau’r Wladwriaeth, ewch i www.gov.uk.
Gallwch ddod o hyd i’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth trwy ddefnyddio teclyn cyfrifo Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Caiff y Cynllun ei 'gontractio allan' o Ail Bensiwn y Wladwriaeth (gweler yr adran berthnasol isod).
O 6 Ebrill 1978 nes 5 Ebrill 2016 talodd aelodau’r CPLlL gyfraniadau yswiriant gwladol ar gyfradd is am eu bod wedi eu "contractio allan" o Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS) – y daethpwyd i gyfeirio ato’n ddiweddarach fel Ail Bensiwn y Wladwriaeth neu S2P.
Mae hyn yn golygu bod aelodau’r CPLlL wedi talu cyfradd is ac yn cael pensiwn sylfaenol y wladwriaeth yn unig, yn hytrach na thalu cyfraniadau yswiriant gwladol llawn a chael pensiwn sylfaenol y wladwriaeth ac ail bensiwn y wladwriaeth.
Fodd bynnag, penderfynodd y llywodraeth newid y ffordd yr enillir pensiynau’r wladwriaeth. Er 6 Ebrill 2016 cafwyd pensiwn un gyfradd i bawb. Ond, mae angen i chi fod wedi talu’r yswiriant gwladol llawn am dipyn o amser cyn i chi gael y swm llawn. Am ragor o wybodaeth gweler y ddolen at wefan pensiwn y wladwriaeth.
Yn ganlyniad i’r newid hwn i bensiwn y wladwriaeth, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai’r opsiwn i gynlluniau pensiwn gael eu contractio allan o gynllun pensiwn y wladwriaeth, yn dod i ben. Yn sgil hyn, er 6 Ebrill 2016, mae aelodau’r CPLlL wedi bod yn talu cyfraniadau yswiriant gwladol ar y gyfradd lawn. Bydd y swm ychwanegol y bu’n rhaid i chi ei dalu yn dibynnu ar eich cyflog.
Mae’n bwysig eich bod yn deall faint o bensiwn y wladwriaeth y byddwch yn ei gael a phryd y byddwch yn ei gael. Edrychwch ar wefan y llywodraeth trwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://www.gov.uk/state-pension/overview.
Os ydych wedi bod yn aelod o’r Cynllun am lai na 2 flynedd ac nid ydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn i mewn o gynllun pensiwn arall, gallwch ofyn am eich cyfraniadau yn ôl.
Dim ond eich cyfraniadau chi eich hun y gellir eu had-dalu, ac nid y cyfraniadau a dalwyd gan eich cyflogwr. Tynnir swm o’r cyfrif i wneud iawn am ryddhad treth ac, os yn berthnasol, Yswiriant Gwladol.
Er mwyn annog pobl i dalu i mewn i bensiwn, mae yna reolau arbennig ynghylch trethu cyfraniadau a rhai buddion.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu cynilo cymaint ag y dymunant a chael rhyddhad llawn ar dreth, gan y bydd eu cynilion pensiwn dipyn yn llai na’r hyn a ganiateir cyn trethu.
Mae yna lwfans blynyddol sy’n cyfyngu ar faint y gall eich pensiwn godi bob blwyddyn. Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) sy’n gosod y terfyn hwn a gall newid bob blwyddyn.
Y terfyn ar gyfer 2023/24 yw £60,000, ond mae yna reolau arbennig erbyn hyn ar gyfer y rheiny sy’n ennill cyflogau uwch ac sy’n gydag enillion wedi'u haddasu dros £260,000 y flwyddyn. Cysylltwch â ni os ydych yn credu y gallai’r lwfans blynyddol effeithio arnoch.
Mae yna lwfans oes hefyd, sy’n cyfyngu ar y swm y gallwch ei gronni yn ddi-dreth yn eich holl drefniadau pensiwn, pan fydd yn dod yn amser i chi gymryd eich buddion. Y lwfans ar gyfer 2022/23 yw £1,073,100.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan CThEM am y lwfans blynyddol yma ac am y lwfans oes yma.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar eich incwm o hyd, wedi i chi ddechrau cymryd eich pensiwn.
Rydym yn tynnu’r swm hwn allan o’ch cyflog trwy Dalu Wrth Ennill (TWE).
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) sy’n cyfrifo faint o dreth incwm ddylech chi fod yn ei thalu ac mae’n rhoi’r cod treth i ni i’w osod yn erbyn eich pensiwn. Bydd angen i chi siarad yn uniongyrchol â CThEM. Gallwch gysylltu â nhw ar 0300 200 3300 (neu 0300 200 3319 ar gyfer ffôn testun) neu +44135 535 9022 os ydych y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Bydd arnoch angen eich rhif Yswiriant Gwladol (gallwch ddod o hyd iddo ar eich P60)
Efallai y bydd angen i chi gysylltu â ni os ydych yn mynd yn ôl i weithio ym maes Llywodraeth Leol, neu i gyflogwr lle y gallech ddod yn aelod o’r CPLlL. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd gwaith pellach yn effeithio ar eich pensiwn. Ond rhaid i chi ddweud wrthym os ydych yn cael swydd arall.
Yn yr adran am farw yn ystod ymddeoliad, cewch fanylion yr hyn y dylai’r sawl sy’n gofalu eich materion ei wneud wedi i chi farw a pha fuddion pellach allai fod ym daladwy o’r Cynllun.