Mae’r polisi defnydd derbyniol hwn yn cyflwyno’r telerau rhyngom ni a chi a chewch ddefnyddio’n gwefan www.gwentpensionfund.org (ein gwefan) o dan y telerau hyn. Mae’r polisi defnydd derbyniol hwn yn berthnasol i bob un sy’n defnyddio’n gwefan a phob un sy’n ymweld â hi.

Os ydych yn defnyddio’n gwefan yna rydych yn derbyn yr holl bolisïau yn y polisi defnydd derbyniol hwn, sy’n ategu at delerau defnyddio’r wefan, ac yn cytuno i gydymffurfio â nhw.

Hymans Robertson LLP (ni) sy’ gweithredu’r wefan hon. Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ydym, ac rydym wedi’n cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cofrestru LLP OC310282. Mae ein swyddfa gofrestredig yn One London Wall, London EC2Y 5EA.

Defnydd gwaharddedig

Caniateir i chi ddefnyddio ein gwefan at ddibenion cyfreithlon yn unig.  Ni chewch ddefnyddio’n gwefan:

  • Mewn unrhyw ffordd sy’n torri unrhyw gyfraith neu reoliad lleol, cenedlaethol neu ryngwladol perthnasol;
  • Mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon neu’n dwyllodrus, neu sydd ag unrhyw ddiben neu effaith anghyfreithlon neu dwyllodrus;
  • I drosglwyddo, neu beri anfon, unrhyw ddeunyddiau hysbysebu neu hyrwyddo na ofynnwyd amdanynt neu na chawsant eu hawdurdodi, neu unrhyw ffordd arall debyg o geisio cael rhywbeth gan rywun (sbam);
  • I fynd ati’n fwriadol i drosglwyddo unrhyw ddata, anfon neu lanlwytho unrhyw ddeunyddiau sy’n cynnwys firysau, cludwyr Trojan, mwydod, bomiau amser, cofnodwyr trawiadau bysellau, ysbïwedd, meddalwedd hysbysebu neu unrhyw raglenni niweidiol eraill neu gôd cyfrifiadurol tebyg a gynlluniwyd er mwyn cael effaith andwyol ar weithrediad unrhyw feddalwedd neu galedwedd cyfrifiadurol;

Rydych hefyd yn cytuno i wneud y canlynol:

  • Peidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo nac ailwerthu unrhyw ran o’n gwefan yn groes i ddarpariaethau telerau defnyddio’r wefan
  • Peidio â chael mynediad heb awdurdod, ymyrryd, difrodi neu amharu ar:
  • unrhyw ran o’n gwefan;
  • unrhyw gyfarpar neu rwydwaith y mae ein gwefan wedi’i storio arno;
  • unrhyw feddalwedd a ddefnyddir wrth ddarparu ein gwefan; neu
  • unrhyw gyfarpar neu rwydwaith neu feddalwedd sy’n eiddo i unrhyw drydydd parti neu’n cael eu defnyddio gan unrhyw drydydd parti.

Atal a therfynu

Byddwn ni’n penderfynu, yn ôl ein doethineb, a ydych wedi torri’r polisi defnydd derbyniol hwn wrth ddefnyddio ein gwefan ai peidio.  Mewn achosion lle torrwyd y polisi hwn, efallai y byddwn yn cymryd camau sy’n briodol yn ein barn ni. 

Bydd peidio â chydymffurfio â’r polisi defnydd derbyniol hwn yn cyfrif fel torri’r telerau defnyddio yr ydych yn cael defnyddio’n gwefan oddi tanynt, a hynny mewn ffordd ddifrifol, a gallai olygu ein bod yn cymryd pob un o’r camau canlynol neu rai ohonynt:

  • Tynnu eich hawl i ddefnyddio’r wefan yn ôl ar unwaith, dros dro neu yn barhaol.
  • Cael gwared ar unrhyw beth yr ydych wedi ei bostio ar y safle neu unrhyw ddeunyddiau yr ydych wedi eu lanlwytho i’r safle, ar unwaith, dros dro neu’n barhaol.
  • Rhoi rhybudd i chi.
  • Cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn i adennill unrhyw gostau ar sail indemniad (gan gynnwys costau gweinyddol a chyfreithiol rhesymol, ond heb eu cyfyngu at y costau hyn) yn ganlyniad i’r achos o dorri telerau.
  • Cymryd camau cyfreithiol pellach yn eich erbyn.
  • Datgelu unrhyw wybodaeth o’r fath i awdurdodau gorfodi’r gyfraith yn ôl yr hyn sy’n rhesymol angenrheidiol yn ein barn ni.

Rydym yn eithrio atebolrwydd dros gamau a gymerwyd mewn ymateb i achosion o dorri’r polisi defnydd derbyniol hwn.  Nid yw’r ymatebion a ddisgrifir yn y polisi hwn wedi eu cyfyngu, a gallwn gymryd unrhyw gamau eraill sy’n rhesymol briodol yn ein barn ni.

Newidiadau i’r polisi defnydd derbyniol

Gallem wneud newidiadau i’r polisi defnydd derbyniol ar unrhyw adeg trwy ddiwygio’r dudalen hon. Disgwylir i chi wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd er mwyn sylwi ar unrhyw newidiadau a wnawn, gan eu bod yn eich rhwymo’n gyfreithiol. Efallai y bydd darpariaethau a hysbysiadau a gyhoeddir mewn man arall ar ein gwefan yn cymryd lle rhai o’r darpariaethau a geir yn y polisi defnydd derbyniol hwn.